Prif Noddwyr:
Diolch yn fawr i’n noddwyr. Mae eich cyfraniad yn ganolog i lwyddiant yr ŵyl.
Eleni bydd Gŵyl y Felinheli yn cael ei chynnal 23.06.23 – 01.07.2023.
Mae gwaith Gŵyl y Felinheli yn amhosibl oni bai am gyfraniad hael ein noddwyr.
Mae pwyllgor yr ŵyl eisoes wedi bod yn brysur yn trefnu 9 diwrnod o weithgareddau yn haf 2023 ar gyfer pobol yr ardal. Rydym yn mawr obeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth i sicrhau y bydd cyfraniad arbennig yr ŵyl i fywyd y pentref yn parhau.
Mae gan arlwy Gŵyl y Felinheli rywbeth at ddant pawb, ac mae’n rhan hollbwysig o galendr blynyddol nifer o’ch cwsmeriaid.
Beth allwn ni ei gynnig?
Gallwch noddi’r ŵyl drwy:
Hoffai pwyllgor yr ŵyl ddiolch o waelod calon ichi am eich cefnogaeth, gan edrych ymlaen yn fawr at dderbyn ymateb.
Dyma linciau i gwmniau sydd i ymwneud a'r ŵyl:
Conwy Valley Meats
JONES Associates Ltd
© 2023 Hawlfraint Gŵyl Felin. Gwefan gan Delwedd