28.06.24

06.07.24

Newyddion

 

Newyddion Diweddaraf

03.07.24 Canlyniad 10k Gwyl Felin 2024

DYNION

  1. Ifan Dafydd
  2. Martin Green
  3. Aled Hughes

MERCHED

  1. Rachel Shipley
  2. Tinka Vinks
  3. Lucy Bracegirdle

Cliciwch yma am y canlyniadau llawn


Pobl yn cerdded o gwnaps Carnifal Y Felinheli

CAIS AM STONDIN YNG NGHARNIFAL Y FELINHELI 2024!

Ffurflen Gais Stondinwyr


Chwiaid ar werth!

lot o chwiaid melyn plastic yn llifo lawr yr afon

Mae’n debyg mai pentra Dyserth yng ngogledd Cymru a gynhaliodd y ras chwiaid plastig gyntaf er mwyn codi pres at achos da. Yn 1980, aeth landlord y dafarn leol ati i gynnal ras ar yr Afon Ffyddion i godi pres at elusen leol. Mi ledaenodd yr arfer ar draws y byd, ac mae pentra’r Felinheli wedi cynnal ras ers degawdau bellach.

Mae pwyllgor Gŵyl y Felinheli yn codi arian drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r ras chwiaid yn hen ffefryn.

Mae’r syniad yn yn syml. Mae pobol o'r pentra, yn ogystal â theulu a ffrindiau o bob rhan o'r byd yn prynu chwdan blastig. Mae hyd at 1,000 o chwiaid wedi'u rhifo yn cael eu gollwng i Afon Heulyn ar ddydd Llun y Pasg, ac mae'r person brynodd y chwadan sy’n croesi’r llinell derfyn gyntaf yn ennill £100.

Cyn y ras ei hun, mae teuluoedd â phlant ifanc yn dod i Gae Seilo, cae chwarae’r tîm pêl-droed ar gyfer gemau sy’n gynnwys helfa wyau Pasg a ras wy ar lwy. Mae’r gweithgareddau hynny am ddim.

Mae’n ffordd hwyliog, greadigol o hel pres ar gyfer yr Ŵyl.

Mae chwiaid ar werth hyd at ddiwrnod y ras ac ar gael gan aelodau’r Pwyllgor yn ogystal ag yn ystod y gemau plant ar y diwrnod ei hun. Fel arall, cysylltwch â info@gwylfelin.org.

Mae dathliadau Pasg Gŵyl y Felinheli yn cael eu cynnal ar Ddydd Llun y Pasg, 1 Ebrill. Bydd gemau Pasg i’r plant yn cychwyn ar gae pêl-droed Cae Seilo am 10:30, efo’r ras hwyaid i gychwyn dros y ffordd ar Afon Heulyn am 12:00. Os bydd tywydd gwael bydd y ras hwyaid yn dechrau am 10:30.

Cofiwch ddilyn y digwyddiad Facebook.

Cadeirydd gŵyl yn diolch i’r pentra am eu cefnogaeth

Staff yr wyl ty nol i arwydd Gwyl Y felin


Roedd diwrnod cyntaf Gorffennaf yn benllanw mwy nag wythnos o weithgareddau a drefnwyd gan bwyllgor Gŵyl y Felinheli ar lannau’r Fenai, a heddiw mae cadeirydd yr ŵyl wedi diolch i drigolion y pentref.

Yn ôl Islwyn (Bonc) Owen:

“I fi yn bersonol, ac i lawer o rai eraill, mi fydd Gŵyl 2023 yn aros yn y co’ fel un arbennig.

“Dychwelodd yr ŵyl i’r Marcî ar lannau’r Fenai efo wyth diwrnod o weithgareddau, yn gyfuniad o hen ffefrynnau yn ogystal â gweithgareddau newydd sbon.

“Roedd noson Almaenig y Felinkeller yn ychwanegiad poblogaidd!

“Roedd rhai o gonglfeini wythnos yr Ŵyl fel y Cwis a’r Bingo yn brysurach nag erioed, a’r Marcî dan ei sang. Roedd tocynnau’r Noson Lawen wedi eu gwerthu yn gynnar yn yr wythnos

“Denodd y Stomp, yr Oedfa, yr ioga, sioe’r ysgol, yr helfa drysor, y sesiynau dawnsio, y ras 10K a diwrnod yr henoed dorf dda iawn hefyd.

“Mae’n anodd crynhoi’r Ŵyl mewn ’chydig o eiriau, ond mae’n rhaid cyfeirio at y gwaith celf ar safle’r ŵyl eleni, wedi’i drefnu gan rai o aelodau newydd y Pwyllgor. Wrth dynnu plant a phobol ifanc y pentra at ei gilydd ar ddydd Sadwrn cynta’r Ŵyl, roedd llond y lle o liw a chyffro ar ddiwrnod y Carnifal.

“Rhaid talu teyrnged i’r Pwyllgor cyfan am eu brwdfrydedd, eu gwaith caled, a’u syniadau. Hoffwn ddiolch i bob gwirfoddolwr a roddodd o’u hamser yn ystod wythnos yr Ŵyl hefyd. A rhaid i mi gymryd y cyfle i ddiolch i’n Noddwyr ac i Gyfeillion yr Ŵyl.

“Ond mae’r diolch mwyaf i bobol y Felinheli, am eu cefnogaeth bob blwyddyn. Chi ydi’r bobl sy’n gwneud Gŵyl y Felinheli yn ŵyl mor arbennig, ac oni bai amdanoch chi, byddai gwaith y Pwyllgor yn amhosib.”


Holiadur Gŵyl y Felin yn fyw!

Sut ydach chi'n teimlo am Ŵyl y Felinheli?

Sut ydach chi'n teimlo am Ŵyl y Felinheli? Wnaethoch chi fwynhau'r ŵyl yn 2023? Oes na bethau fasa chi'n newid, cael gwared arnyn nhw, neu'n eu hychwanegu?

Dyma eich cyfle chi i ddeud eich deud!
Mae holiadur ar-lein yn fyw, ac mae'r pwyllgor isio clywed eich syniadau!

Dilynwch y ddolen hon i roi eich sylwadau.


“Gŵyl heb ei math yn nunlla arall!”

Gŵyl y Felinheli’n ei hôl!


Mae gan y Felinheli, pentref lan môr yn Eryri lawer i ymfalchïo ynddo, o’i draddodiad pêl-droed cryf sy’n ymestyn yn ôl i’r 1890au, i’r ffaith iddo fod yn gartref i borthladd ar gyfer yr ail chwarel lechi fwyaf y byd ar y pryd

Ond nid o’r gorffennol yn unig y mae balchder y pentre’n deillio, a’r mis hwn bydd yn cynnal gŵyl 9 diwrnod.

Dim ond oddeutu 2,300 o bobl sy’n byw yn y Felinheli, ond ddiwedd mis Mehefin bydd yn cynnal gŵyl flynyddol sy’n ymestyn dros 8 diwrnod yn olynol, gyda thwrnamaint golff yn cael ei gynnal y penwythnos cyn yr ŵyl.

Ddydd Iau 22 Mehefin, bydd pabell fawr yn cael ei chodi ar lawnt y pentref ar lannau’r Fenai a bydd yr ŵyl yn cychwyn y diwrnod canlynol.

Bydd Stomp, sesiwn hwylio am ddim, gŵyl gwrw Almaenig, sesiwn addurno gŵyl, Oedfa a sesiwn ioga i gyd yn digwydd ar benwythnos cyntaf yr ŵyl. Yn ystod yr wythnos bydd yr ysgol gynradd leol yn perfformio eu sioe eu hunain, bydd Helfa Drysor ar droed, diwrnod wedi ei neilltuo i henoed y pentref, noson bingo, dwy sesiwn ddawnsio, cwis, ras 10k, a cherddoriaeth fyw ar lan y môr. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda Noson Lawen, noson o gomedi ac adloniant ar nos Wener 30 a Diwrnod y Carnifal ei hun ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf. Ar y dydd Sadwrn olaf bydd Bwncath a Morgan Elwy yn perfformio, ac am y tro cyntaf bydd pentref bwyd ar y safle.

Yn ôl aelod o’r pwyllgor, mae gan Ŵyl y Felinheli hanes hir, ac felly mae'r union ddyddiadau braidd yn amwys. Roedd carnifal pentref traddodiadol yn bod cyn yr ŵyl yn ei ffurf bresennol, ac fe ddatblygodd y carnifal o’r Regata, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym 1873.

Dywedodd Osian Owen, aelod o’r pwyllgor:

“Mae pobol Felin yn hynod o falch o’u cymuned, ac mae’r ŵyl naw diwrnod yn rhan hanfodol o fywyd y pentref erbyn hyn.

“Dwi’n cofio bod yn blentyn yn tyfu i fyny yn y pentref, a chael ddau Nadolig, un ym mis Rhagfyr a’r llall ddiwedd Mehefin.

“Does ’na ddim gŵyl o’i math yn nunlla arall. Gŵyl gymunedol, ar y raddfa yma, trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Y llynedd fe gawson ni wythnos arbennig, yr ŵyl gyntaf ar ôl Covid.

“Ac eleni fe wnaethon ni groesawu aelodau newydd i bwyllgor yr ŵyl a ddaeth â llawer o syniadau newydd, cyffrous, ac rydan ni’n edrych ymlaen at rannu gwybodaeth am naw diwrnod o ddigwyddiadau dros y pythefnos nesaf.

“Bydd cartrefi’r pentra’n derbyn rhaglen yr ŵyl drwy’r post dros y dyddiau nesaf, a bydd copïau ar gael yn ddigidol ac yn siop y pentra.

“Rydan ni’n annog pobol leol i gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.”

Bydd Gŵyl y Felinheli yn cael ei chynnal ar lannau’r Fenai yn y pentref rhwng 23 Mehefin – 1 Gorffennaf 2023.


CAIS AM STONDIN YNG NGHARNIFAL Y FELINHELI 2023

CAIS AM STONDIN YNG NGHARNIFAL Y FELINHELI 2023

(Dyddiad i'w gadarnhau)


Poster Ras 10k Gwyl Y Felinheli 2023

Ras 10k Gŵyl Y Felinheli 2023 ar AGOR

28fed o Mehefin 2023

Dilynwch y linc yma i gofrestru

Poster Ras 10k Gwyl Y Felinheli 2022

25.06.22 Ras 10k Gwyl Y Felinheli 2022 ar AGOR

Gwybodaeth am Ras 10k 2022


Rhaglen Gwyl y Felinheli 2022

10.06.22 Rhaglen Gŵyl Y Felinheli 2022

Mae rhaglen Gŵyl Y Felinheli 2022 nawr ar gael.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r Rhaglen


16.05.22 CAIS AM STONDIN YNG NGHARNIFAL Y FELINHELI 2022

 


Ras 10k Gwyl Y Felinheli 2022 ar AGOR

 

Datganiad COVID-1920.10.21 Da ni'n NÔL!

Gŵyl y Felinheli
24 Mehefin 2022 - 2 Gorffennaf 2022

- Pwyllgor Gŵyl y Felin


Datganiad COVID-1910.03.21 DATGANIAD

Er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, mae Pwyllgor yr Ŵyl wedi penderfynnu gohirio'r ŵyl am flwyddyn arall. Er bod y sefyllfa yn gwella gyda'r rhaglen frechu, daeth y Pwyllgor i'r casgliad mai dyma'r penderfyniad iawn u'w wneud eleni. Bydd hi'n chwip o ŵyl yn 2022!

Diolch i bobl Felin am eu cefnogaeth

- Pwyllgor Gŵyl y Felin

 

Datganiad COVID-1919.03.20 DATGANIAD

Yn sgil datblygiadau diweddar, gwnaed y penderfyniad caled i GANSLO'r Ŵyl eleni, a hynny er mwyn sicrhau nad ydym yn cyfrannu at ledaenu feirws COVID-19. Mae'r Ŵyl wrthi ar hyn o bryd yn cysylltu ag artistiaid a chyflenwyr. Nodwch fod grŵp wedi ei sefydlu i gydlynu’r ymdrech i helpu'r rheini yn y Felinheli sydd angen cymorth yn wyneb lledaeniad y feirws. Diolch i bawb am eu cefnogaeth barhaol ac edrychwn ymlaen at eich gweld yng Ngŵyl y Felinheli 2021. Cymrwch ofal ohonoch eich hunain yn ystod y cyfnod hwn!

- Pwyllgor Gŵyl y Felin


Datganiad Gweithgareddau Pasg17.03.20 I'ch Sylw

Yn sgil datblygiadau diweddar, penderfynwyd CANSLO gweithgareddau'r Ŵyl ar ddydd Llun y Pasg (13/04/2020), a hynny er mwyn sicrhau nad ydym yn cyfrannu at ledaenu feirws COVID-19 (y coronafeirws). Nid yw'r ras hwyaid wedi ei chanslo, ond bydd yn cael ei gohirio a'i chynnal pan fo hynny'n briodol.
Gobeithio y byddwch yn deall y penderfyniad. Cymrwch ofal.

- Pwyllgor Gŵyl y Felin

01.10.19 CYFARFOD BLYNYDDOL GŴYL Y FELINHELI - NOS FERCHER 9FED O HYDREF

Bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Fic am 7 o'r gloch ar ddydd Mercher y 9fed o Hydref. Croeso i bawb.


10k Gwyl Felin 201903.07.19 Canlyniadau 10k Gwyl Felin 2019

1. Matthew Roberts
2. Michael Corrales
3. Dilwyn Powell-Jones

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen gyda'r canlyniadau llawn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


Ras Hwyaid Pasg 201924.04.19 RAS HWYAID PASG 2019

Ennillwyr:

1af - Ianto Ap Gruffydd
2il - Ceri Ann
3ydd - Siwan (Lan y Mor)
4ydd - Carwyn Dafydd
5ef - Sarah
6ed - Sophie Horan
7fed - Jac (3 Aber Cottages)
8fed - Iwan Elis
9fed - Ioan a Swyn
10fed - Beca Coed Menai
11eg - Bubs % Chase Me
Dwytha - Elen Hughes

Cliciwch yma i weld lluniau


Cais am Stondin yng Ngharnifal Y Felinheli12.04.19 Cais am Stondin yng Ngharnifal Y Felinheli 2019

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gais


poster11.04.19 Dydd Llun Y Pasg - 22ain Ebrill

Yda chi wedi prynu hwyaden eto?!

10.30am Cae Seilo - GEMAU I'R PLANT

12.00pm Afon Heulyn Bryntirion Lodge - RÂS HWYAID

Archebwch Hwyaden £1!



poster13.03.19 Cofrestru ar gyfer Ras 10k 2019

Cofrestru nawr ar agor

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen cofrestru

Cliciwch yma am fanylion am y ras

Eleni rydym yn ceisio rhoi hwb i ymdrechion 'mudiad 'Save the Children', drwy ofyn i'r rhedwyr ystyried cael eu noddi at yr achos da (manylion pellach ar yr atodiad) - cliciwch yma

poster05.11.18 Yr Wyl yn derbyn siec gan Y Ras Rafftiau

Dyma Islwyn, Cadeirydd pwyllgor yr Wyl yn derbyn siec gan bwyllgor y Ras Rafftiau. Mae Gwyl Felin yn ddiolchgar iawn iddynt am eu rhodd.


14.09.18 CYFARFOD BLYNYDDOL GŴYL Y FELINHELI - NOS FERCHER 10FED O HYDREF

Bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Fic am 7 o'r gloch ar ddydd Mercher y 10fed o Hydref. Croeso i bawb.


poster09.07.18 Hwyaden Lwcus

Dyma ennillwyr Hwyaden Lwcus

Prif ennillydd: 483 - Joleen Owen

Ennillwyr eraill:
290 - Gareth Griffith
495 - Trefor Roberts
178 - Ella Catrin
491 - Iwan Bonc
552 - Mari Swyn
881 - Welcome Furniture
25 - Bob Sweet
111 - Carl Fic
528 - Rhys a Karen
267 - Jean Jonsey


poster04.07.18 Canlyniadau 10k Gwyl Felin 2018

1. Russel Bentley
2. Martin Green
3. Ifan Dafydd

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen gyda'r canlyniadau llawn.

Cliciwch yma i weld y lluniau


poster19.06.18 Rhaglen 2018

Mae rhaglen gŵyl 2018 nawr ar gael.

Cliciwch yma i weld y rhaglen


poster08.05.18 Noson Cynnyrch Lleol

Noson Cynnyrch Lleol ar nos Iau 5ed o Orffennaf eleni os oes gan rywun ddiddordeb mewn dod a stondin draw, cysylltwch â ni plis!


Ras Hwyaid Pasg 201803.04.18 Ras Hwyaid Pasg 2018

Ennillwyr:

£100
417. Rich a Colleen

£10
691. Martha (Gwion Tegid)
113. Aled Em
30. Scott Williams
804. Welcome Furniture
719. Iolo Harris
151. Julie Horran (Bob S)
732. Lleucu ac Osian
768. Sue Fic
367. Glyn Tan
758. Boris

Dwytha (£10)
184. Gaynor Owen

Cliciwch yma i weld lluniau


poster27.03.18 Cofrestru ar gyfer Ras 10k 2018

Cofrestru nawr ar agor

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen cofrestru

Cliciwch yma am fanylion am y ras


poster18.01.18 STŴR WRTH Y DWR

Mae STŴR WRTH Y DWR yn dychwelyd i 'line-up' Gŵyl Felin yn 2018!

Yn dilyn seibiant am ychydig o flynyddoedd, mae pwyllgor yr ŵyl wedi penderfynu ei bod hi'n amser i ail-gynnal y noson hynod boblogaidd yma. Mi fydd y noson yn agored i unrhyw un gymeryd rhan, oedolion a phlant.

Mi fydd y digwyddiad yma ar y nos Sadwrn cyntaf, sef y 29ain o Fehefin.

Dechreuwch feddwl am syniadau!

27.09.17 Cyfarfod Blynyddol Gŵyl y Felinheli - Nos Fercher 11eg o Hydref

Bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Fic am 7 o'r gloch ar ddydd Mercher y 11eg o Hydref. Croeso i bawb.


10k Gwyl Felin 201728.06.17 Canlyniadau 10k Gwyl Felin 2017

1. Martin Green
2. Owen Roberts
3. Ryan Cain

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen gyda'r canlyniadau llawn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


Ras 10k Y Faenol 201715.06.17 Ras 10k Y Faenol 2017 - GWIRFODDOLI

Mae Gwyl Y Felinheli yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn stiwardiaid ar gyfer ras 10k ar nos Fercher 28ain o Fehefin.

Cysylltwch â ni


Rhaglen Gŵyl y Felinheli 201714.06.17 Rhaglen Gŵyl y Felinheli 2017

Mae rhaglen 2017 yn awr ar gael!

I lawrlwytho copi o'r rhaglen 2017 - cliciwch yma


Cystadleuaeth Golff Tlws Goffa Dafydd Vernon02.06.17 Cystadleuaeth Golff Tlws Goffa Dafydd Vernon

Golf Gwyl y Felin am tarian goffa Dafydd Vernon ar ddydd Sul 18fed o Fehefin, ar gwrs Maes Du, tee cynta 1.30. Golf, pryd o fwyd 2 gwrs a bws o'r Felinheli am £45.

Cysylltwch â ni wybod cyn gynted a phosib os 'da chi yn gallu dod i chwarae, byddai angen deposit o £10. Cofiwch wahodd ffrindiau, y mwyaf gawn ni y gorau bydd y diwrnod.


Noson Bierkeller CPD Y Felinheli05.05.17 Noson Bierkeller CPD Y Felinheli

Nos Sadwrn 20fed Mai, 7.30pm

Neuadd Goffa, Y Felinheli

Ticedi: £15

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cysylltwch â CPD Y Felinheli i brynu ticedi


Ras Hwyaid Pasg 201718.04.17 Ras Hwyaid Pasg 2017

Ennillwyr:

£100
29. Karen Balwns

£10
69. Christine Griffith
378. Matthew Bee
1075. Welcome Furniture
363. Lorraine Owen
283. Ianto Llywelyn
337. Elgan
440. Glyn Jones
662. Gethin Jones
470. Sharon
30. Steve Mawr

Dwytha (£10)
857. Welcome Furniture

Cliciwch yma i weld lluniau


Cais am Stondin yng Ngharnifal Y Felinheli04.04.17 Cais am Stondin yng Ngharnifal Y Felinheli

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gais


Cofrestru ar gyfer Ras 10k 201713.03.17 Cofrestru ar gyfer Ras 10k 2017

Cofrestru nawr ar agor

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen cofrestru

Cliciwch yma am fanylion am y ras

 

© 2024 Hawlfraint Gŵyl Felin. Gwefan gan Delwedd